Trademark-Divider-1
Introduction

After meeting the BA Photography cohort, whose work and journeys are celebrated in this publication, I was reminded of poet Fred Moten's definition of study as a collective practice, 'study is what you do with other people' (1). It happens in talking, walking, working, and dancing with others, a coming together to learn. Listening to the students discuss their work and that of their peers, I observed the ways that they held space for each other, their togetherness, and the intersection of their investigations. This publication is a testament to their study. 
 
The energy that unites these graduates' practices is the complex theme of identity, and they begin by addressing their own, introducing themselves through biometric data, including retina scans and a series of portraits influenced by the conventions of photo ID. Subverting the visual language of official identity verification, which predicates hard borders and surveillance, these graduates emerge with self-authored IDs that champion resistance, creative freedom, and access. 
 
Our identities traverse space and time. The past isn't a foreign country; it's very much present and processed in the images here. Gareth Williams revisits his childhood through abstract close-ups of technicolour postcards of Barry Island juxtaposed with images of its faded facades today. Ben Peake creates an afterlife of his late mother through her possessions, and Megan Hill retrieves lost memories. All three confront family histories to make sense of their present identities. 
 
Navigating how our identities are impacted by mental health is sensitively explored by Ksenia Rusu, whose poignant images reflect on lived experiences of schizophrenia. Her series titled Chasing the Sun reminded me that 'to turn oneself towards the sun is an act of faith' (2); we see this strength and vulnerability also in the work of Caitlin James documenting her nan's Alzheimer's symptoms and in Scentsory by Rachel Saabor, whose large format portraits portray the impact of smell, a little-known trigger for those living with PTSD. Past selves are reconstructed by Marshall Edwards, who depicts addiction and the process of recovery. Anchor by Ella Jenkins provides a counterpoint to the over-stimulation of modern life, a rest to reset. 
      
Cities and towns are home to national, regional, and collective identities. Sport plays an essential role in local identity, and Grace Leggett considers those working behind the scenes of small rugby clubs to ensure the game's survival. The built environment and architecture play a defining role in how we see and find our place in the world. This year's graduates take to the streets to capture buildings, spaces and stories. Cardiff is the focus of Tamzin Ward, who abstracts details from contemporary buildings, while Maisie Evans considers the agency of the city. Ffion Lloyd-Jones documents the landmark steelworks of Port Talbot, and street life documented by Voyta Voves shows us the universal pressures of everyday existence across different cities. 
 
Our present economic condition is the subject of work by Emma Fadden, who documents the cost-of-living crisis and considers student futures in the context of mounting tuition fees and debt. Despite ever-rising inflation, Instagram regularly reminds me to buy the sofa of my dreams, hoping I'll forget the precarity of the rental housing market. Can we acquire identity through conspicuous consumption? These editorial lifestyles are challenged by Abby Wicks, who questions the attainability of such inauthenticity. The consumption of fashion is another key communicator of identity. The self-portraits of Alice Hoffland show how clothing manifests personal identity, and Alice Forde examines the pleasure and discomfort of fashion; satisfyingly saturated colours come with unexpected compositions.  
 
Identity politics is often discussed in divisive ways; however, here we see several nuanced approaches to gender, sexuality, ethnicity, and disability. Through portraiture Jack Halford wants us to rethink our preconceived ideas of masculinity. At the same time, Holly Holder centres the female gaze, engaging with feminist theory to contest the woman as an archetype. Both welcome ambiguity and seek to destabilise the cultural expectations of gender. The work of Mareah Ali engages with deaf identities; as a lip reader, she foregrounds the sculptural gestures of BSL to consider the multiple ways to hear and listen. Tackling the all too often heard phrase, 'But where are you really from', Amy Masters considers her own identity as a British Chinese adoptee into a white family and that of other adoptees as a way to open up dialogue about privilege and difference. The impact of political decisions on our identities can be lifelong and Joss Copeman eloquently reflects on the paradoxes of contemporary queer experience post Section 28, which from 1998 to 2003 prohibited the promotion of homosexuality in schools and local authorities in England and Wales. 
 
Identity is compelling, elusive, and knotty. Cultural theorist Stuart Hall describes identities as '...fragmented and fractured; never singular but multiply constructed across different, often intersecting, and antagonistic, discourses, practices and positions' (3). This year's graduates are deeply engaged with examining this entangled multiplicity to challenge how we understand ourselves, each other, and the world around us, opening up ways of being otherwise in a time of divisiveness and struggle. 

  1. Stefano Harney and Fred Moten, The Undercommons: Fugitive Planning & Black Study (Minor Compositions, Wivenhoe, 2013), p.113.

  2. Hélène Cixous, “Coming to Writing" and Other Essays (Cambridge: Mass., Harvard University Press, 1991), p.129.

  3. Stuart Hall, ‘Who needs Identity?’ in Questions of Cultural Identity , Ed. Stuart Hall and Paul Du Gay (Sage Publications, London, 1996), p.1.

Biography 

Sim Panaser is Curator at Chapter Arts Centre in Cardiff, Wales. For over 15 years, working closely with artists, she’s delivered exhibitions and commissions in public museums and galleries across the UK. In addition, she’s acquired artwork for public collections, including Tyne and Wear Archives and Museums and the UK Government Art Collection, specifically supporting the acquisition of underrepresented artists and those in the early stages of their careers. 

Cyflwyniad

Ar ôl cwrdd â'r garfan BA Ffotograffiaeth, y mae’r cyhoeddiad hwn yn dathlu’u eu gwaith a'u taith, cefais fy atgoffa o ddisgrifiad y bardd Fred Moten o astudio fel ymarfer ar y cyd, 'astudio yw'r hyn rydych chi'n ei wneud gyda phobl eraill' (1). Mae'n digwydd wrth siarad, cerdded, gweithio a dawnsio gydag eraill, pobl yn dod at ei gilydd i ddysgu. Wrth wrando ar y myfyrwyr yn trafod eu gwaith eu hunain a’i gilydd, sylwais ar y ffyrdd roedden nhw’n cynnal lle i'w gilydd, lle gallen nhw fod gyda’i gilydd, a’u hymchwiliadau’n cwrdd a chroestorri. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dyst i'w hastudio.
 
Yr egni sy'n uno ymarfer y graddedigion hyn yw thema ddyrys hunaniaeth, ac maen nhw’n dechrau drwy drafod eu hunaniaeth eu hunain, yn eu cyflwyno eu hunain trwy ddata biometrig, gan gynnwys sganiau retina a chyfres o bortreadau wedi’u dylanwadu gan gonfensiynau dulliau adnabod ffotograffig. Ond drwy wrthdroi iaith weledol draddodiadol dulliau dilysu hunaniaeth swyddogol, sy'n dibynnu ar ffiniau caled ac sy’n cyfleu gwyliadwriaeth, mae'r graddedigion hyn yn creu eu hieithwedd adnabod eu hunain sy'n rhoi bri ar wrthsefyll,  rhyddid creadigol a mynediad.
 
Mae ein hunaniaeth yn croesi gofod ac amser. Nid gwlad estron mo'r gorffennol; mae'n bresennol iawn ac yn cael ei phrosesu yn y delweddau yma. Mae Gareth Williams yn ailymweld â'i blentyndod trwy ffotograffau agos haniaethol o gardiau post technoliwgar o Ynys y Barri wedi'u cyfosod â delweddau o'r ffasadau fel y maen nhw heddiw, wedi pylu.  Mae Ben Peake yn creu ôl-fywyd i’w ddiweddar fam drwy ei heiddo, ac  mae Megan Hill yn hel atgofion coll. Mae'r tri yn mynd i’r afael â  hanesion teuluol i wneud synnwyr o'u hunaniaethau presennol. 
 
Mae Ksenia Rusu yn mynd i’r afael yn sensitif â’r ffordd mae iechyd meddwl yn effeithio ar ein hunaniaeth, mewn delweddau teimladwy sy’n adfyfyrio ar brofiadau byw gyda sgitsoffrenia. Roedd ei chyfres  o'r enw Chasing the Sun yn fy atgoffa bod 'troi tuag at yr haul yn weithred o ffydd' (2); gwelwn y cryfder a'r bregusrwydd hwn hefyd yng ngwaith Caitlin James  sy’n cofnodi symptomau Alzheimer ei nain ac yn Scentsory gan Rachel Saabor, y mae ei phortreadau fformat mawr yn portreadu effaith arogleuon, sy’n sbardun na ŵyr llawer amdano i bobl sy’n byw gyda PTSD. Mae hunaniaethau o’r gorffennol yn cael eu hail-greu gan Marshall Edwards, sy'n darlunio dibyniaeth a'r broses wella. Mae Anchor gan Ella Jenkins yn creu gwrthbwynt i fywyd modern a’i dueddiadau i or-gyffroi, cyfle i ailosod a gorffwys.
      
Mae dinasoedd a threfi yn cynnal hunaniaethau cenedlaethol, rhanbarthol a chyfunol. Mae chwaraeon yn rhan hanfodol o hunaniaeth leol, ac mae Grace Leggett yn ystyried y rhai sy'n gweithio y tu ôl i’r llenni mewn clybiau rygbi bach i sicrhau bod y gêm yn goroesi. Mae'r amgylchedd adeiledig a'r bensaernïaeth yn chwarae rhan ddiffiniol yn y ffordd rydyn ni’n gweld ac yn dod i ddeall ein lle yn y byd. Mae nifer o’n graddedigion eleni ar y strydoedd yn cipio delweddau o adeiladau a gofodau, a straeon. Caerdydd yw ffocws gwaith Tamzin Ward , sy'n troi manylion adeiladau cyfoes yn haniaethol, tra bo Maisie Evans yn ystyried pŵer a dylanwad y ddinas.  Mae Ffion Lloyd-Jones yn dogfennu gwaith dur Port Talbot, ac mae’r bywyd stryd a ddogfennir gan Voyta Voves yn darlunio pwysau cyffredinol bywyd bob dydd mewn gwahanol ddinasoedd.
 
Ein sefyllfa economaidd bresennol yw testun gwaith Emma Fadden, sy'n dogfennu'r argyfwng costau byw ac yn ystyried dyfodol myfyrwyr yng nghyd-destun ffioedd dysgu cynyddol a dyled. Er gwaethaf chwyddiant cynyddol, mae Instagram yn fy atgoffa'n rheolaidd i brynu’r soffa ddelfrydol, gan obeithio y byddaf yn anghofio mor anwadal mae’r farchnad dai rhent. Allwn ni greu hunaniaeth trwy brynu pethau? Mae'r ffyrdd hyn o fyw, y mae’r delweddau sgleiniog yn dylanwadu arnyn nhw gymaint, yn cael eu herio gan Abby Wicks, sy'n cwestiynu pa mor gyraeddadwy mae’r delweddau annilys hyn. Mae defnyddio ffasiwn yn ffordd allweddol arall o arddangos hunaniaeth. Mae hunanbortreadau Alice Hoffland yn  dangos sut mae dillad yn amlygu hunaniaeth bersonol,  ac mae Alice Forde ynarchwilio pleser ac anghysur ffasiwn; gyda lliwiau dwys yn arwain at gyfansoddiadau annisgwyl.  
 
Yn aml, mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn cael ei chyfleu fel rhywbeth sy’n gwahanu; ond gwelwn yma sawl agwedd ystyrlon ar ryw, rhywioldeb, ethnigrwydd, ac anabledd. Mae Jack Halford am i ni ailfeddwl ein rhagdybiaethau ynghylch gwrywdod. Mae Holly Holder yn rhoi’r drem fenywaidd wrth ganol popeth, yn ymgysylltu â theorïau ffeministaidd i herio archdeipiau. Mae'r ddau yn croesawu amwysedd ac yn ceisio ansefydlogi disgwyliadau diwylliannol rhywedd. Mae gwaith Mareah Ali yn ymwneud â hunaniaethau byddar; fel darllenydd gwefusau, mae'n rhoi  ystumiau BSL wrth flaen ei gwaith ac yn ystyried y ffyrdd niferus o glywed a gwrando. Wrth fynd i'r afael â'r ymadrodd syrffedus, 'Ond o ble rydych chi’n dod mewn gwirionedd?' Mae Amy Masters yn  ystyried ei hunaniaeth fel Tsieinead Prydeinig gafodd ei mabwysiadu gan deulu gwyn, a hunaniaethau pobl eraill gafodd eu mabwysiadu, i agor deialog am fraint a gwahaniaeth. Gall effaith penderfyniadau gwleidyddol ar hunaniaethau bara oes ac mae Joss Copeman yn adfyfyrio ar baradocsau profiadau cwiar ers Cymal 28, a waharddodd hyrwyddo cyfunrywioldeb mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr rhwng 1998 a 2003.
 
Mae hunaniaeth yn ddifyr, yn eironig, yn haenog. Disgrifia’r damcaniaethwr diwylliannol Stuart Hall hunaniaethau fel pethau sy’n '...dameidiog a darniog; byth yn bodoli ar eu pen eu hunain ond yn bethau lluosog wedi'u hadeiladu ar sail sgyrsiau, arferion a safbwyntiau sy'n aml yn croestorri, ac yn wrthwynebol’ (3). Mae graddedigion eleni’n ymgysylltu'n ddwfn â’r cymhlethdod hwn ac yn herio'r ffordd rydyn ni’n ein deall ein hunain, ein gilydd, a'r byd o'n cwmpas, yn creu ffyrdd eraill o fod mewn oes gecrus a rhanedig.

  1. Stefano Harney and Fred Moten, The Undercommons: Fugitive Planning & Black Study (Minor Compositions, Wivenhoe, 2013), p.113.

  2. Hélène Cixous, “Coming to Writing" and Other Essays (Cambridge: Mass., Harvard University Press, 1991), p.129.

  3. Stuart Hall, ‘Who needs Identity?’ in Questions of Cultural Identity , Ed. Stuart Hall and Paul Du Gay (Sage Publications, London, 1996), p.1.

Bywgraffiad 

Mae Sim Panaser yn Guradur yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter Caerdydd. Ers dros 15 mlynedd, gan weithio'n agos gydag artistiaid, mae hi wedi cyflwyno arddangosfeydd a chomisiynau mewn amgueddfeydd ac orielau cyhoeddus ledled y DU. Mae hi hefyd wedi caffael gwaith celf ar gyfer casgliadau cyhoeddus, gan gynnwys Archifau ac Amgueddfeydd Tyne a Wear a Chasgliad Celf Llywodraeth y DU, yn cefnogi'n benodol y gwaith o gaffael artistiaid sydd wedi eu tangynrychioli a rhai yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd.

svgexport-1-1-1
View