English     Cymraeg

Cael Hyd i Le

Lucy Smith

Rydych chi'n eistedd mewn ystafell aros. Yn teimlo deunydd cwrs eich cadair, eich braich yn gorffwys ar ei metel oeraidd, pentwr anwastad o gylchgronau ar y bwrdd gerllaw. Mae'r ystafell aros yn llawn dieithriaid. Mae coesau’n hercian, bysedd yn pigo cefn llaw, babi’n deffro gyda sŵn sy'n debyg i gŵyn colomen, dyn yn peswch byth a hefyd. Mae'r dieithriaid o'ch cwmpas yn siarad, sgyrsiau’n gorgyffwrdd, tameidiau o eiriau’n byrlymu i’r brig drwy fôr o fân ymddiddan.
 
Ar ôl siarad â'r ffotograffwyr sy’n graddio gyda BA a chlywed am eu prosiectau, dyma’r ffaith bod angen mwy ar ffotograffydd nag offer a syniad o'r hyn sy'n gwneud delwedd yn bleserus i'r llygad yn fy nharo o’r newydd. Mae angen gallu hunan-fyfyrio’n ddwys, a chredu bod yr hyn rydych chi'n tynnu ei lun yn haeddu golwg fanylach arno. Y gamp yw creu delwedd ffres, sy'n gwneud i'r gwyliwr weld rhywbeth fel pe bai am y tro cyntaf. Mae ffotograffau yn datgelu rhywfaint o athroniaeth a gwerthoedd y ffotograffwyr. Mae eu gweld nhw yn datgelu ein hathroniaeth a’n gwerthoedd ni ein hunain hefyd. Delwedd fel iaith; dywedodd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr wrtha i nad ydyn nhw'n hoffi defnyddio geiriau – drwy ddelweddau maen nhw'n cyfathrebu. Gwnaeth y sgwrs i fi wenu, oherwydd mai’r gwrthwyneb sy’n wir i fi am wn i, yn ceisio cyswllt drwy ddefnyddio geiriau ar dudalen. Dywedodd ambell fyfyriwr fod defnyddio ffotograffau yn hytrach na geiriau yn ffordd o wneud i bobl wrando'n fwy astud. Mae hynny wedi bod ar fy meddwl byth ers hynny. 
 
Mae yna lawer o resymau dros dynnu lluniau. Dyma rai rhesymau y rhannodd y myfyrwyr â  fi:
I iacháu. Dangos i bobl sut rydych chi'n gweld pethau. Eich datgelu eich hun fel person. Adlewyrchu bywyd trwy eich llygaid eich hun. Hunan-archwilio. Mae ffotograffau yn hanesyddol hanfodol – yn cofio ac yn cadw. Cymeriad mewn stori yw’r camera. Cyfuniad o sawl crefft a ffurf gelfyddydol. Dihangfa. Iaith gyfoethog yw ffotograffiaeth.
 
Rwyf wedi bod yn meddwl am y foment lle rydyn ni'n edrych ar ffotograff am y tro cyntaf, ein hymennydd yn ei bwyso a’i mesur yn erbyn popeth arall rydyn ni wedi'i weld a'i wybod erioed. Rwyf wedi bod yn meddwl am yr amser rydyn ni’n ei neilltuo i oedi ac edrych ar ddelweddau newydd; mae'n foethusrwydd, ond yn anghenraid hefyd. Sut gall y pethau pwysig fodoli rhwng gwybod hyn a gwybod y llall. Rhwng gweld delwedd a phenderfynu ein bod yn deall beth mae'n ei olygu. Rhwng ein tasgau dyddiol, pan allwn ni adael i ffotograff ein newid. Neu adael iddo ein cadw ni yn y lle hwnnw sydd rhwng pethau, ac esgor ar fwy o gwestiynau nag atebion.
 
Wrth ystyried y trothwy hwn rhwng pethau, daeth dau ddyfyniad i'r cof:
 
"Beth os mai yn y cyfnodau o dawelwch y mae ein bywyd yn cael ei fyw mewn gwirionedd? Yn yr hyn rydyn ni’n ei feddwl, neu’r hyn sydd rhwng yr eiliadau hynny o feddwl, nid yn y geiriau?"
- Emma Neale ['The Pink Jumpsuit', The Spinoff, 29.03.20]
 
"Beth yw gwir wirionedd ein hamser? Mae'n cynnwys breuddwydion, mae'n cynnwys ymadael, mae'n cynnwys camddehongli, mae'n cynnwys y cof."
- Patti Smith ['Podlediad #82', Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, 13.10.15]
 
Beth yw’r enw ar y lle hwnnw rhwng pethau? Ystafell aros, yr anhysbys. Ai yn y lle hwnnw rhwng pethau mae’r pethau pwysig i gyd yn digwydd mewn gwirionedd?
 
Yn y casgliad hwn o ffotograffau mae sawl persbectif ar waith. Mae fel pe baem yn eistedd mewn ystafell aros (pwy a ŵyr am beth), yn clywed tameidiau o sgyrsiau. Mae pob sgwrs yn werth ei chlywed, a phob un yn gwneud i ni ymdrechu i’w chlywed yn well.  
 
Ystyried diwylliant fel perfformiad / gwactod stiwdio wen / gwyliadwriaeth / breuddwydion liw dydd nad oes modd eu rheoli; yn troi’n bethau eraill / beth yw’r gwrthwyneb i’r ffordd mae dynion yn syllu? / menywod yn chwysu, clystyrau gwallt yng nghefn y gwddf / gemwaith gleiniau wedi'i gwneud gan mam-gu / misogynystiaeth bob dydd: "Rwy'n tynnu llun bob tro mae'n digwydd" / dwndwr y meddwl / delfrydu’r corff gwrywaidd / tirluniau wedi'u creithio y tu hwnt i adnabyddiaeth.
 
Rydym yn neilltuo amser i wrando ar y safbwyntiau hyn i gyd, ac yn y pen draw, fel pe bai ein henw o'r diwedd yn cael ei alw, rydyn ni’n cael ein gorfodi i chwilio am ein safbwynt ein hunain. Beth sydd wedi’i ddeffro ynom ni? Beth ydyn ni’n sylwi arno am y tro cyntaf erioed? Mae'r ffotograffau hyn yn adlewyrchu’r eiliadau rhwng pethau, yr hyn sydd heb ei ddweud e heb ei weld, yn llenwi rhai o’r bylchau yn ein profiad ni o'r byd. Dod at y ffotograffau hyn, disgwyl i weld yr hyn y gwnân nhw ei ddatgelu yw llawenydd y casgliad hwn.
 
Byddai'r artistiaid-ymchwilwyr Wrights & Sites yn cyfeirio at ystafelloedd aros fel ‘lleoedd nad ydyn nhw’n lleoedd':
"Rydyn ni'n mynd drwy’r lleoedd hyn nad ydyn nhw’n lleoedd fel llongau’n mynd heibio i’w gilydd yn y nos; dydyn ni ddim cyfathrebu; dydyn ni ddim yn ymgysylltu." Ond maen nhw'n ein hannog i "droi’r lleoedd nad ydyn nhw’n lleoedd yn lleoedd. Chwiliwch am y pethau penodol sy'n dangos bod bywyd wedi digwydd yn y gofod hwn."
- Wrights & Sights ['Place/Non-Place', mis-guide.com]
 
Beth sy'n cysylltu ystafell o ddieithriaid llwyr? Y weithred o aros? Y weithred o edrych ar yr un ffotograffau? Troi dalennau yr un llyfr; pob profiad yn wahanol, ond yn gysylltiedig.
 
Dewch i ni ddychwelyd at y clytwaith hwnnw o sgyrsiau, y llinyn arian drwy'r casgliad hwn:
Sut olwg sydd ar groen mewn gwirionedd, o edrych arno’n agos? / treigl amser / creu gyda llaw / poen anweledig / sbectrwm emosiynau chwaraewyr rygbi / prydferthwch eithafol / twrio dan y boned / pethau wedi eu taflu / cysgodion / isdyfiant yn traflyncu / cerrig milltir ein bywyd / glôb yn tywynnu / mewn drych, yn paentio gwên.
 
Tynnwch ymaith a chaniatewch ddigon o amser. Dewch o hyd i le rhwng y pethau sydd ar eich rhestr i’w gwneud ac ystyriwch y delweddau hyn fel pe na bai unrhyw gyfyngiad o gwbl ar eich amser. Arhoswch iddyn nhw eu datgelu eu hunain yn iawn. Arhoswch i weld beth fydd yn digwydd.
 
Gall ystafelloedd aros fod yn fannau o ragweld, o bryder, yn dir neb annioddefol. Mae edrych ar ffotograffau yn aml yn peri llai o bryder na hyn, ond mae hefyd yn wir bod rhai delweddau yn gallu ein gorfodi i wynebu rhannau ohonon ni ein hunain – ein hunanfodlonrwydd, ein hanwybodaeth, pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol. Mae bod yn gyfforddus ymhlith y ffotograffau hyn hefyd yn golygu bod yn gyfforddus gyda lleoedd nad ydyn ni’n eu hadnabod, pobl nad ydyn ni’n eu hadnabod, ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Gwrando ar leisiau anghyfarwydd iawn, gadael iddyn nhw gael effaith arnoch chi. Mae'r ffotograffau hyn yn creu gofod lle gallwch dreulio ychydig amser, dod i wybod rhywbeth nad oeddech chi'n sylweddoli bod angen ei wybod. Lle i feddwl, lle i aros, a gwerthfawrogi'r hyn a ddaw i’r fei.
 
Ac rydych chi bellach yn gysurus ymhlith y dieithriaid a’u sgyrsiau. Mae'r babi’n cysgu nawr, y  dyn oedd yn bythol besychu wedi cael ei alw i ystafell arall. Mae menyw yn estyn am gylchgrawn o’r pentwr anwastad ar y bwrdd gerllaw. Rydych chi'n sylweddoli eich bod chi'n teimlo fel pe baech yn adnabod pawb o'ch cwmpas. Rydych chi bron wedi anghofio amdanoch chi’ch hun, a'r hyn a ddaeth â chi yma. Pan fo rhywun yn galw eich enw, mae ennyd yn mynd heibio cyn i chi sylweddoli mai chi sydd dan sylw.

Bywgraffiad

Mae Lucy Smith yn awdur ac athrawes sy'n byw yng Nghaerdydd, yn wreiddiol o Swydd Gaerhirfryn. Mae ei ffuglen fer a'i nofelau ffeithiol creadigol wedi'u cyhoeddi gan Reflex Press, Ad Hoc Fiction, Flash Frog, Arcade Campfa ac Ink Sweat & Tears, ymhlith eraill. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac mae wedi cwblhau tair preswylfa ysgrifennu yng Nghymru. Mae Lucy hefyd yn hwyluso gweithdai ysgrifennu mewn mannau cymunedol ac orielau celf, ac yn cydweithio ag artistiaid sain a gweledol.

Instagram: @lucysmithwriter

Website: lucysmithwriter.com

svgexport-1-1-1-1-1